Daniel 7:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel hyn y dywedodd efe; Y pedwerydd bwystfil fydd y bedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear, yr hon a fydd amryw oddi wrth yr holl freniniaethau, ac a ddifa yr holl ddaear, ac a'i sathr hi, ac a'i dryllia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma ddwedodd wrtho i: ‘Mae'r pedwerydd creadur yn cynrychioli ymerodraeth fydd yn wahanol i bob teyrnas arall. Bydd yn llyncu'r byd i gyd, ac yn sathru pawb a phopeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'i ateb: "Pedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear yw'r pedwerydd bwystfil. Bydd hi'n wahanol i'r holl freniniaethau eraill; bydd yn ysu'r holl ddaear, ac yn ei sathru a'i malu.