Daniel 7:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa saint y Goruchaf, ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau: a hwy a roddir yn ei law ef, hyd amser ac amseroedd a rhan amser.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn herio'r Duw Goruchaf ac yn cam-drin ei bobl sanctaidd. Bydd yn ceisio newid yr amserau osodwyd yn y gyfraith, a bydd pobl Dduw dan ei reolaeth am gyfnod, dau gyfnod, a hanner cyfnod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn herio'r Goruchaf ac yn llethu saint y Goruchaf, ac yn cynllunio i newid y gwyliau a'r gyfraith; a chaiff awdurdod drostynt am dymor a thymhorau a hanner tymor.