Daniel 7:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r frenhiniaeth a'r llywodraeth, a mawredd y frenhiniaeth dan yr holl nefoedd, a roddir i bobl saint y Goruchaf, yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a phob llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhânt iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd awdurdod brenhinol a grym pob teyrnas dan y nef yn cael ei roi i bobl sanctaidd Duw. Mae Duw yn teyrnasu'n dragwyddol, a bydd pob awdurdod arall yn ei wasanaethu ac yn ufudd iddo.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A rhoddir y frenhiniaeth a'r arglwyddiaeth, a gogoniant pob brenhiniaeth dan y nef, i bobl saint y Goruchaf. Brenhiniaeth dragwyddol fydd eu brenhiniaeth hwy, a bydd pob teyrnas yn eu gwasanaethu ac yn ufuddhau iddynt."