Daniel 7:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi hyn yr edrychais, ac wele un arall megis llewpard, ac iddo bedair adain aderyn ar ei gefn: a phedwar pen oedd i'r bwystfil; a rhoddwyd llywodraeth iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Yna, wrth i mi edrych, dyma greadur arall yn dod i'r golwg. Roedd hwn yn edrych fel llewpard, ond roedd ganddo bedair o adenydd ar ei gefn, fel adenydd adar. Roedd gan y creadur yma bedwar pen, a chafodd awdurdod i lywodraethu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedyn, a minnau'n dal i edrych, gwelais un arall, tebyg i lewpard, a phedair adain aderyn ar ei gefn; ac yr oedd gan y bwystfil bedwar pen, a rhoddwyd arglwyddiaeth iddo.