Daniel 7:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr oeddwn yn ystyried y cyrn; ac wele, cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy, a thynnwyd o'r gwraidd dri o'r cyrn cyntaf o'i flaen ef: ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw, a genau yn traethu mawrhydri.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Tra roeddwn i'n edrych ar y cyrn, dyma gorn arall — un bach — yn codi rhyngddyn nhw. Dyma dri o'r cyrn eraill yn cael eu gwthio o'u gwraidd i wneud lle i'r un bach. Roedd gan y corn yma lygaid tebyg i lygaid person dynol, a cheg oedd yn brolio pethau mawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel yr oeddwn yn sylwi ar y cyrn, gwelais gorn arall, un bychan, yn codi o'u mysg, a thynnwyd tri o'r cyrn cyntaf o'u gwraidd i wneud lle iddo, ac yn y corn yma gwelais lygaid fel llygaid dynol a cheg yn traethu balchder.