Daniel 8:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y clywais ryw sant yn llefaru, a dywedodd rhyw sant arall wrth y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru, Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol, a chamwedd anrhaith i roddi y cysegr a'r llu yn sathrfa?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma fi'n clywed bod sanctaidd yn siarad, ac un sanctaidd arall yn gofyn iddo. “Am faint mwy mae hyn yn mynd i fynd ymlaen — y gwrthryfel yma sy'n stopio'r aberthu dyddiol, a'r deml a'r fyddin yn cael eu sathru dan draed?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywais un o'r rhai sanctaidd yn siarad, ac un arall yn dweud wrth yr un a siaradai, "Am ba hyd y pery'r weledigaeth o'r offrwm dyddiol, a'r pechod anrheithiol, a sarnu'r cysegr a'r llu?"