Daniel 8:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaeth yn agos i'r lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fe'n dod ata i. Roedd gen i ofn am fy mywyd, a dyma fi'n disgyn ar fy ngwyneb ar lawr o'i flaen. A dyma fe'n dweud, “Ddyn, rhaid i ti ddeall mai gweledigaeth am y diwedd ydy hon.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth Gabriel at y man lle'r oeddwn yn sefyll, a phan ddaeth, crynais mewn ofn a syrthio ar fy wyneb. Dywedodd wrthyf, "Deall, fab dyn, mai ag amser y diwedd y mae a wnelo'r weledigaeth."