Daniel 8:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i nerth ef a gryfha, ond nid trwy ei nerth ei hun; ac efe a ddinistria yn rhyfedd, ac a lwydda, ac a wna, ac a ddinistria y cedyrn, a'r bobl sanctaidd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn troi'n bwerus iawn (ond ddim drwy ei nerth ei hun). Bydd yn achosi'r dinistr mwyaf ofnadwy. Bydd yn llwyddo i wneud beth bynnag mae e eisiau. Bydd yn dinistrio'r bobl mae'r angylion yn eu hamddiffyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd ei nerth yn fawr, ac fe wna niwed anhygoel; fe lwydda yn yr hyn a wna, ac fe ddinistria'r cedyrn a phobl y saint.