Daniel 8:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo; ac efe a ymfawryga yn ei galon, a thrwy heddwch y dinistria efe lawer: ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion; ond efe a ddryllir heb law.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn llwyddo i dwyllo llawer drwy ei glyfrwch, ac yn brolio ei fawredd ei hun. Bydd yn dinistrio llawer o bobl sy'n meddwl eu bod yn saff. Bydd yn herio'r un sy'n Dywysog ar dywysogion, ond yna'n sydyn bydd yn cael ei dorri gan law anweledig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn ei gyfrwystra fe wna i ddichell ffynnu; cynllunia orchestion yn ei galon, a heb rybudd fe ddinistria lawer. Heria dywysog y tywysogion, ond fe'i torrir i lawr heb gymorth llaw.