Daniel 9:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses y daeth yr holl ddrygfyd hyn arnom ni: eto nid ymbiliasom o flaen yr ARGLWYDD ein DUW, gan droi oddi wrth ein hanwiredd, a chan ddeall dy wirionedd di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae wedi digwydd yn union fel mae cyfraith Moses yn dweud. Ac eto dŷn ni ddim wedi gwneud pethau'n iawn gyda'r ARGLWYDD ein Duw drwy droi cefn ar ein pechod a cydnabod dy fod ti'n ffyddlon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y dinistr hwn arnom, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses; eto nid ydym wedi ymbil ar yr ARGLWYDD ein Duw trwy droi oddi wrth ein camweddau ac ystyried dy wirionedd di.