Daniel 9:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y gwyliodd yr ARGLWYDD ar y dialedd, ac a'i dug arnom ni; oherwydd cyfiawn yw yr ARGLWYDD ein DUW yn ei holl weithredoedd y mae yn eu gwneuthur: canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr ARGLWYDD yn gwybod beth oedd e'n wneud, a daeth â'r dinistr arnon ni. Mae popeth mae'r ARGLWYDD yn ei wneud yn iawn, a doedden ni ddim wedi gwrando arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cadwodd yr ARGLWYDD olwg ar y dinistr hwn nes dod ag ef arnom, am fod yr ARGLWYDD ein Duw yn gyfiawn yn ei holl weithredoedd, a ninnau heb wrando ar ei lais.