Daniel 9:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O ARGLWYDD, yn ôl dy holl gyfiawnderau, atolwg, troer dy lidiowgrwydd a'th ddicter oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd; oherwydd am ein pechodau, ac am anwireddau ein tadau, y mae Jerwsalem a'th bobl yn waradwydd i bawb o'n hamgylch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O Feistr, rwyt ti bob amser yn gwneud beth sy'n iawn; plîs stopia fod yn wyllt gyda dy ddinas, Jerwsalem, a'r mynydd rwyt wedi ei gysegru. Am ein bod ni wedi pechu, a'n hynafiaid wedi gwneud cymaint o ddrwg, dydy Jerwsalem a dy bobl di yn ddim byd ond testun sbort i bawb o'u cwmpas nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O Arglwydd, yn unol 'th holl weithredoedd cyfiawn, erfyniwn arnat i droi dy lid a'th ddigofaint oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd, oherwydd am ein pechodau ni ac am gamweddau ein hynafiaid y mae Jerwsalem a'th bobl yn wawd i bawb o'n cwmpas.