Daniel 9:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gostwng dy glust, O fy NUW, a chlyw; agor dy lygaid, a gwêl ein hanrhaith ni, a'r ddinas y gelwir dy enw di arni: oblegid nid oherwydd ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn tywallt ein gweddïau ger dy fron, eithr oherwydd dy aml drugareddau di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O Dduw, gwrando'n astud ar beth dw i'n ofyn. Edrych ar stad y ddinas yma sy'n cael ei chysylltu â dy enw di! Dŷn ni ddim yn gweddïo fel yma am ein bod ni'n honni ein bod wedi gwneud beth sy'n iawn, ond am dy fod ti mor anhygoel o drugarog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fy Nuw, gostwng dy glust a gwrando; agor dy lygaid ac edrych ar ein hanrhaith ac ar y ddinas y gelwir dy enw arni; nid oherwydd ein cyfiawnder ein hunain yr ydym yn ymbil o'th flaen, ond oherwydd dy aml drugareddau di.