Daniel 9:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn nechrau dy weddïau yr aeth y gorchymyn allan, ac mi a ddeuthum i'w fynegi i ti: canys annwyl ydwyt ti: ystyr dithau y peth, a deall y weledigaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd yr ateb ei roi wrth i ti ddechrau gweddïo, a dw i wedi dod yma i'w rannu gyda ti. Rwyt ti'n sbesial iawn yng ngolwg Duw. Felly gwrando'n ofalus, i ti ddeall y weledigaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddechreuaist ymbil, cyhoeddwyd gair, a deuthum innau i'w fynegi, oherwydd cefaist ffafr. Ystyria'r gair a deall y weledigaeth.