Daniel 9:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd i ddibennu camwedd, ac i selio pechodau, ac i wneuthur cymod dros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol, ac i selio y weledigaeth a'r broffwydoliaeth, ac i eneinio y sancteiddiolaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae saith deg cyfnod o saith wedi eu pennu i dy bobl a'r ddinas sanctaidd roi diwedd ar eu gwrthryfel. I ddod â'r pechu i ben, delio gyda drygioni a gwneud pethau'n iawn unwaith ac am byth. I gadarnhau y weledigaeth broffwydol, ac eneinio y Lle Mwyaf Sanctaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Nodwyd deg wythnos a thrigain i'th bobl ac i'th ddinas sanctaidd, i roi diwedd ar wrthryfel a therfyn ar bechodau, i wneud iawn am ddrygioni ac i adfer cyfiawnder tragwyddol; i roi sl ar weledigaeth a phroffwydoliaeth, ac i eneinio'r lle sancteiddiolaf.