Daniel 9:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwybydd gan hynny a deall, y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem, hyd y blaenor Meseia, saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain: yr heol a adeiledir drachefn, a'r mur, sef mewn amseroedd blinion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly rhaid i ti ddeall: O'r amser pan gafodd y gorchymyn ei roi i adfer ac ailadeiladu Jerwsalem nes daw un wedi ei eneinio yn arweinydd, bydd saith cyfnod o saith. Bydd y ddinas yn cael ei hadfer a'i hailadeiladu gyda strydoedd a ffosydd amddiffyn am chwe deg dau cyfnod o saith. Ond bydd hi'n amser caled, argyfyngus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Deall hyn ac ystyria: bydd saith wythnos o'r amser y daeth gorchymyn i ailadeiladu Jerwsalem hyd ddyfodiad tywysog eneiniog; yna am ddwy wythnos a thrigain adnewyddir heol a ffos, ond bydd yn amser adfyd.