Daniel 9:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia, ond nid o'i achos ei hun: a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a'r cysegr; a'i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd ddiwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl y chwe deg dau cyfnod o saith, bydd yr un wedi ei eneinio yn cael ei dorri i ffwrdd, bydd heb ddim. Yna bydd y ddinas a'r deml yn cael eu dinistrio gan fyddin arweinydd arall sydd i ddod. Bydd y diwedd yn dod fel llif. Bydd rhyfela'n para i'r diwedd. Mae dinistr wedi ei gyhoeddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ar l y ddwy wythnos a thrigain fe leddir yr un eneiniog heb neb o'i du, a difethir y ddinas a'r cysegr gan filwyr tywysog sydd i ddod. Bydd yn gorffen mewn llifeiriant, gyda rhyfel yn peri anghyfanedd-dra hyd y diwedd.