Daniel 9:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos: ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i'r aberth a'r bwyd‐offrwm beidio; a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y diben terfynedig ar yr anrheithiedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn gwneud ymrwymiad gyda'r tyrfaoedd am un cyfnod o saith. Ond hanner ffordd drwy'r saith bydd yn stopio'r aberthau a'r offrymau. Yna ar yr adain bydd yn codi eilun ffiaidd sy'n dinistrio, nes i'r dinistr sydd wedi ei ddyfarnu ddod ar yr un sy'n dinistrio.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe wna gyfamod cadarn llawer am un wythnos, ac am hanner yr wythnos rhydd derfyn ar aberth ac offrwm. Ac yn sgl y ffieiddbeth daw anrheithiwr, a erys hyd y diwedd, pan dywelltir ar yr anrheithiwr yr hyn a ddywedwyd."