Daniel 9:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni wrandawsom chwaith ar y proffwydi dy weision, y rhai a lefarasant yn dy enw di wrth ein brenhinoedd, ein tywysogion, ein tadau, ac wrth holl bobl y tir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni wedi gwrthod gwrando ar dy weision, y proffwydi. Roedden nhw wedi siarad ar dy ran di gyda'n brenhinoedd ni a'n harweinwyr, ein hynafiaid a'n pobl i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni wrandawsom ar dy weision y proffwydi, a fu'n llefaru yn dy enw wrth ein brenhinoedd a'n tywysogion a'n hynafiaid, ac wrth holl bobl y wlad.