Daniel 9:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I ti, ARGLWYDD, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau, megis heddiw; i wŷr Jwda, ac i drigolion Jerwsalem, ac i holl Israel, yn agos ac ymhell, trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt, am eu camwedd a wnaethant i'th erbyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Feistr, rwyt ti wedi gwneud popeth yn iawn, ond does gynnon ni ddim ond lle i gywilyddio — pobl Jwda a Jerwsalem, pobl Israel i gyd — y bobl sydd ar chwâl drwy'r gwledydd lle rwyt ti wedi eu gyrru nhw am iddyn nhw dy fradychu di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder; ond heddiw fel erioed, cywilydd sydd i ni, bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem a holl Israel, yn agos ac ymhell, ym mhob gwlad lle'r alltudiwyd hwy am iddynt dy fradychu.