Deuteronomy 1:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r amser hwnnw y gorchmynnais i'ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr a bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a'i frawd, ac a'r dieithr sydd gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Cafodd rhai eraill eu penodi'n farnwyr, a dyma fi'n eu siarsio nhw i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif, a delio'n deg gyda'r achosion fyddai'n codi rhwng pobl — nid yn unig rhwng pobl Israel a'i gilydd, ond rhwng pobl Israel a'r rhai o'r tu allan oedd yn byw gyda nhw hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr adeg honno rhoddais orchymyn i'ch barnwyr, a dweud wrthynt, "Yr ydych i wrando ar achosion eich pobl, ac i farnu'n gyfiawn rhyngoch chwi a'ch gilydd, a hefyd rhyngoch chwi a'r dieithriaid sy'n byw yn eich plith.