Deuteronomy 1:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na chydnabyddwch wynebau mewn barn; gwrandewch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gŵr; oblegid y farn sydd eiddo DUW: a'r peth a fydd rhy galed i chwi, a ddygwch ataf fi, a mi a'i gwrandawaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedais wrthyn nhw am beidio dangos ffafriaeth wrth farnu achos, ond gwrando ar bawb, beth bynnag fo'i statws. A ddylen nhw ddim ofni pobl. Duw sy'n gwneud y barnu. Ac os oedd achos yn rhy gymhleth iddyn nhw, gallen nhw ofyn i mi ddelio gydag e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch yn ddiduedd mewn barn, a gwrandewch ar y distadl yn ogystal 'r pwysig. Peidiwch ag ofni unrhyw un, oherwydd eiddo Duw yw barn. Os bydd achos yn rhy anodd i chwi, dygwch ef ataf fi, a gwrandawaf fi arno."