Deuteronomy 1:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan fudasom o Horeb, ni a gerddasom trwy'r holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD ein DUW i ni: ac a ddaethom i Cades‐Barnea.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Yna, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i ni, dyma ni'n gadael Mynydd Sinai, a dechrau teithio drwy'r anialwch mawr peryglus yna, i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid. A dyma ni'n cyrraedd Cadesh-barnea.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw inni, gadawsom Horeb, a mynd i gyfeiriad mynydd-dir yr Amoriaid, gan deithio trwy'r cyfan o'r anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw a welsoch chwi, a daethom i Cades-barnea.