Deuteronomy 1:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, yr ARGLWYDD dy DDUW a roddes y wlad o'th flaen: dos i fyny a pherchenoga hi, fel y llefarodd ARGLWYDD DDUW dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrha.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychwch, mae'r tir yna i chi ei gymryd. Ewch, a'i gymryd, fel mae'r ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi dweud wrthoch chi. Peidiwch bod ag ofn na panicio.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrych, y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn rhoi'r wlad iti; dos i fyny, a meddianna hi fel y dywedodd yr ARGLWYDD, Duw dy hynafiaid, wrthyt. Paid ag ofni nac arswydo."