Deuteronomy 1:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwi oll a ddaethoch ataf, ac a ddywedasoch, Anfonwn wŷr o'n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fyny ar hyd‐ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond dyma chi'n dod ata i a dweud, ‘Beth am anfon dynion i edrych dros y wlad gyntaf. Gallen nhw awgrymu pa ffordd fyddai orau i fynd, a rhoi gwybodaeth i ni am y trefi sydd yno.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fe ddaethoch chwi i gyd ataf a dweud, "Gad inni anfon dynion o'n blaen i chwilio'r wlad, a dod ag adroddiad inni am y ffordd yr awn i fyny iddi, a hefyd am y dinasoedd yr awn iddynt."