Deuteronomy 1:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I ba le yr awn i fyny? ein brodyr a'n digalonasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hwy na nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
I ble awn ni? Mae'r dynion aeth i chwilio'r tir wedi'n gwneud ni'n hollol ddigalon wrth sôn am bobl sy'n dalach ac yn gryfach na ni. Mae waliau amddiffynnol eu trefi nhw yn codi'n uchel i'r awyr. Ac yn waeth na hynny maen nhw'n dweud eu bod nhw wedi gweld cewri yno — disgynyddion Anac.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sut yr awn ni i fyny yno? Y mae ein brodyr wedi ein digalonni trwy ddweud fod y bobl yn fwy ac yn dalach na ni, a bod y dinasoedd yn fawr gyda chaerau cyn uched 'r nefoedd, ac iddynt weld disgynyddion yr Anacim yno."