Deuteronomy 1:41 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr atebasoch, ac a ddywedasoch wrthyf, Pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD: nyni a awn i fyny ac a ymladdwn, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr ARGLWYDD ein DUW i ni. A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel, ac a ymroesoch i fyned i fyny i'r mynydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roeddech chi'n cyfaddef eich bod ar fai wedyn, a dyma chi'n dweud, ‘Dŷn ni wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Gwnawn ni fynd i ymladd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrthon ni.’ “A dyma chi i gyd yn gwisgo'ch arfau, yn barod i fynd i ymladd yn y bryniau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna atebasoch fi a dweud, "Yr ydym wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD; fe awn i fyny ac ymladd fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ein Duw." Ac fe wisgodd pob un ohonoch ei arfau, gan gredu mai hawdd fyddai mynd i fyny i'r mynydd-dir.