Deuteronomy 1:44 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth allan yr Amoriaid, oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw, i'ch cyfarfod chwi; ac a'ch ymlidiasant fel y gwnâi gwenyn, ac a'ch difethasant chwi yn Seir, hyd Horma.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r Amoriaid oedd yn byw yno yn dod allan i ymladd gyda chi fel haid o wenyn, a'ch gyrru chi i ffwrdd! Dyma nhw'n eich taro chi i lawr yr holl ffordd i dir Seir i dref Horma.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daeth yr Amoriaid, a oedd yn byw yn y mynydd-dir hwnnw, allan yn eich erbyn a'ch ymlid fel gwenyn, a'ch trechu yn Seir gerllaw Horma.