Deuteronomy 1:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dychwelwch, a chychwynnwch rhagoch ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i'w holl gyfagos leoedd; i'r rhos, i'r mynydd, ac i'r dyffryn, ac i'r deau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n bryd i chi symud yn eich blaenau. Ewch i gyfeiriad bryniau'r Amoriaid, a'r ardaloedd cyfagos — dyffryn yr Iorddonen, y bryniau, yr iseldir i'r gorllewin, tir anial y Negef a'r arfordir — sef gwlad Canaan i gyd ac o Libanus yr holl ffordd i'r Afon Ewffrates fawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Paratowch i fynd ar eich taith, ac ewch i fynydd-dir yr Amoriaid, ac at eu cymdogion yn yr Araba, yn y mynydd-dir, y Seffela a'r Negef ac ar lan y mr, gwlad y Canaaneaid, a hefyd i Lebanon hyd at yr afon fawr, afon Ewffrates.