Deuteronomy 10:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr ARGLWYDD dy DDUW, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a'i garu ef, a gwasanaethu yr ARGLWYDD dy DDUW â'th holl galon, ac â'th holl enaid,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Nawr, bobl Israel, beth mae'r ARGLWYDD eich Duw eisiau i chi ei wneud? Mae e eisiau i chi ei barchu, byw fel mae e wedi gorchymyn i chi, ei garu, ei wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, O Israel, beth y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei ofyn gennyt? Dy fod yn ofni'r ARGLWYDD dy Dduw trwy rodio yn ei ffyrdd a'i garu, a gwasanaethu'r ARGLWYDD dy Dduw 'th holl galon ac 'th holl enaid;