Deuteronomy 10:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna gwneuthum arch o goed Sittim; ac a neddais ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; ac a euthum i fyny i'r mynydd, a'r ddwy lech yn fy llaw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly dyma fi'n gwneud cist o goed acasia, a cherfio dwy lechen garreg oedd yr un fath â'r rhai cyntaf. Wedyn dyma fi'n mynd i fyny'r mynydd yn cario'r ddwy lechen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwneuthum arch o goed acasia, a naddu dwy lechen fel y rhai cyntaf, a mynd i fyny i'r mynydd gyda'r llechau yn fy nwylo.