Deuteronomy 10:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dychwelais ac y deuthum i waered o'r mynydd, ac a osodais y llechau yn yr arch, yr hon a wnaethwn, ac yno y maent; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dyma fi'n mynd yn ôl i lawr o'r mynydd, a'u rhoi nhw yn y gist roeddwn i wedi ei gwneud. Maen nhw'n dal tu mewn i'r gist hyd heddiw. Dyna roedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi hyn deuthum i lawr o'r mynydd, a gosodais y llechau yn yr arch a wneuthum, ac y maent yno, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD imi.