Deuteronomy 11:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac enynnu dicllonedd yr ARGLWYDD i'ch erbyn, a chau ohono ef y nefoedd, fel na byddo glaw, ac na roddo y ddaear ei chnwd, a'ch difetha yn fuan o'r tir yr hwn y mae yr ARGLWYDD yn ei roddi i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os gwnewch chi hynny bydd yr ARGLWYDD yn digio'n lân hefo chi, ac yn gwneud iddi stopio glawio. Fydd dim cnydau'n tyfu, a byddwch chi'n cael eich symud o'r tir da mae'r ARGLWYDD ar fin ei roi i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os felly, bydd dicter yr ARGLWYDD yn llosgi yn eich erbyn; bydd yn cau y nefoedd, fel na cheir glaw, ac ni fydd y tir yn rhoi ei gynnyrch, ac yn fuan byddwch chwithau'n darfod o'r wlad dda y mae'r ARGLWYDD ar fin ei rhoi ichwi.