Deuteronomy 11:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni saif gŵr yn eich wyneb: eich arswyd a'ch ofn a rydd yr ARGLWYDD eich DUW ar wyneb yr holl dir yr hwn y sathroch arno, megis y llefarodd wrthych.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd neb yn gallu'ch rhwystro chi. Fel gwnaeth e addo i chi, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn gwneud i chi godi ofn ar bawb, ble bynnag dych chi'n mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni fydd neb yn medru eich gwrthsefyll; fel yr addawodd ichwi, bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn peri i'ch arswyd a'ch dychryn fod dros wyneb yr holl dir a droediwch.