Deuteronomy 11:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A melltith, oni wrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich DUW, ond cilio ohonoch allan o'r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddiw, i fyned ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond melltith gewch chi os byddwch chi'n cymryd dim sylw o'i orchmynion, troi cefn ar y ffordd dw i'n ei gosod o'ch blaen chi, ac addoli eilun-dduwiau dych chi'n gwybod dim amdanyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond melltith os na fyddwch yn gwrando ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, eithr yn troi o'r ffordd yr wyf fi yn ei gorchymyn ichwi heddiw, i ddilyn duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod.