Deuteronomy 11:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid yw y rhai hyn o'r tu hwnt i'r Iorddonen, tua'r lle y machluda'r haul, yn nhir y Canaaneaid, yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal, gerllaw gwastadedd More?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw yr ochr draw i'r Afon Iorddonen, ar dir y Canaaneaid sy'n byw yn yr Araba — wrth ymyl Gilgal sydd heb fod yn bell o dderwen More.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y gwyddoch, y mae'r rhain yr ochr draw i'r Iorddonen i'r gorllewin, tuag at fachlud haul, yn nhir y Canaaneaid sy'n byw yn yr Araba, gyferbyn Gilgal ac yn ymyl deri More.