Deuteronomy 11:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hyn a wnaeth efe i Dathan, ac i Abiram, meibion Elïab, mab Reuben; y modd yr agorodd y ddaear ei safn, ac a'u llyncodd hwynt, a'u teuluoedd, a'u pebyll, a'r holl olud oedd ganddynt, ymysg holl Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth yr ARGLWYDD i'r ddaear agor yng nghanol y gwersyll, a dyma Dathan ac Abiram (meibion Eliab o lwyth Reuben), a'u teuluoedd a'u pebyll a'u hanifeiliaid i gyd, yn cael eu llyncu gan y ddaear.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'r hyn a wnaeth i Dathan ac Abiram, meibion Eliab fab Reuben, pan agorodd y ddaear ei safn yng nghanol Israel gyfan a'u llyncu hwy a'u teuluoedd, eu pebyll a'r holl eiddo oedd yn perthyn iddynt.