Deuteronomy 12:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y bydd lle wedi i'r ARGLWYDD eich DUW ei ddewis iddo, i beri i'w enw aros ynddo; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi; sef eich poethoffrymau, a'ch aberthau, eich degymau, a dyrchafael‐offrwm eich llaw, a'ch holl ddewis addunedau, y rhai a addunedoch i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch chi'n mynd i'r lle fydd yr ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun, ac yn mynd â'r pethau dw i'n ei orchymyn i gyd iddo — offrymau i'w llosgi, aberthau, degymau, eich rhoddion personol, a'r offrymau i wneud adduned dych chi am eu rhoi iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe ddygwch i'r man y bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei ddewis yn drigfan i'w enw, y cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi, eich poethoffrymau a'ch aberthau, eich degymau a'ch cyfraniadau, a'ch rhoddion dethol, y rhai yr ydych wedi eu haddunedu i'r ARGLWYDD.