Deuteronomy 12:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni elli fwyta o fewn dy byrth ddegfed dy ŷd, na'th win, na'th olew, na chyntaf‐anedig dy wartheg, na'th ddefaid, na'th holl addunedau y rhai a addunech, na'th offrymau gwirfodd, na dyrchafael‐offrwm dy law:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A dych chi ddim i fwyta eich offrymau yn eich pentrefi — y degwm o'r ŷd, y sudd grawnwin a'r olew olewydd, yr anifeiliaid cyntaf-anedig, eich offrymau i wneud adduned a'ch offrymau personol gwirfoddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni chei fwyta yn dy drefi dy ddegwm o u375?d, nac o win newydd nac o olew, na chyntafanedig dy wartheg a'th ddefaid, na dim sydd wedi ei addunedu gennyt, na'th offrymau gwirfodd, na'th gyfraniadau.