Deuteronomy 12:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond o flaen yr ARGLWYDD dy DDUW y bwytei hwynt, yn y lle a ddewiso yr ARGLWYDD dy DDUW; ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW yn yr hyn oll yr estynnech dy law arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r rhain i gael eu bwyta o flaen yr ARGLWYDD yn y lle mae e wedi ei ddewis. Dych chi, a'ch meibion a'ch merched, eich gweision a'ch morynion, a'r Lefiaid sy'n byw yn eich pentrefi i fynd yno, i ddathlu'r ffaith fod yr ARGLWYDD wedi bendithio'ch gwaith caled chi drwy roi cnydau mor dda i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhaid iti fwyta'r rheini gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw, yn y man y bydd ef yn ei ddewis; dyna a wnei di, dy fab, dy ferch, dy was, dy forwyn, a'r Lefiaid sydd yn dy drefi, a llawenhau gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw ym mhopeth a wnei.