Deuteronomy 12:21 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os y lle a ddewisodd yr ARGLWYDD dy DDUW i roddi ei enw ynddo, fydd pell oddi wrthyt; yna lladd o'th wartheg, ac o'th ddefaid, y rhai a roddodd yr ARGLWYDD i ti, megis y gorchmynnais i ti, a bwyta o fewn dy byrth wrth holl ddymuniad dy galon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os bydd y lle mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis iddo'i hun yn rhy bell i chi deithio iddo, cewch ladd yr anifeiliaid fel dw i wedi dweud wrthoch chi, a'i bwyta nhw yn eich pentrefi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd y man y bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn ei ddewis i osod ei enw yno yn bell oddi wrthyt, cei ladd un o'th wartheg neu o'th ddefaid a roes yr ARGLWYDD iti, fel y gorchmynnais iti, a bwyta yn dy drefi gymaint ag a fynni.