Deuteronomy 12:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dygwch yno eich poethoffrymau, a'ch aberthau, a'ch degymau, ac offrwm dyrchafael eich llaw, eich addunedau hefyd, a'ch offrymau gwirfodd, a chyntaf‐anedig eich gwartheg a'ch defaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna lle byddwch chi'n mynd i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac aberthau eraill, eich rhoddion a'ch degymau, eich offrymau i wneud addewid, eich offrymau gwirfoddol, a'r anifeiliaid cyntaf-anedig — gwartheg, defaid a geifr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a chyflwyno eich poethoffrymau a'ch aberthau, eich degymau a'ch cyfraniadau, eich addunedau a'ch offrymau gwirfodd, a chyntafanedig eich gwartheg a'ch defaid.