Deuteronomy 13:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i holl ysbail hi a gesgli i ganol ei heol hi, ac a losgi'r ddinas a'i holl ysbail hi yn gwbl, i'r ARGLWYDD dy DDUW, â thân: felly bydded yn garnedd byth; nac adeilader hi mwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna rhaid i chi gasglu'r pethau gwerthfawr i ganol sgwâr y dref, a llosgi'r dref a'r cwbl yn offrwm i'r ARGLWYDD eich Duw. Bydd y dref yn cael ei gadael yn domen o adfeilion, a byth i gael ei hadeiladu eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Casglwch y cwbl o'i hysbail i ganol maes y dref, a llosgwch y dref a'i hysbail thn, yn aberth llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw, a bydd yn aros yn garnedd am byth heb ei hailadeiladu.