Deuteronomy 13:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na lyned wrth dy law di ddim o'r diofryd‐beth: fel y dychwelo yr ARGLWYDD oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y'th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch cadw dim byd sydd i fod i gael ei ddinistrio. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn stopio bod yn ddig, yn teimlo trueni a bod yn garedig atoch chi, ac yn rhoi lot o blant i chi fel gwnaeth e addo i'r hynafiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Paid dal dy afael mewn dim sydd i'w ddifrodi, er mwyn i'r ARGLWYDD droi oddi wrth angerdd ei ddig a dangos trugaredd tuag atat; yna, wrth drugarhau, bydd yn eich lluosogi fel y tyngodd wrth eich hynafiaid,