Deuteronomy 13:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r proffwyd hwnnw, neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth; canys llefarodd i'ch troi chwi oddi wrth yr ARGLWYDD eich DUW, yr hwn a'ch dug chwi allan o dir yr Aifft, ac a'ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i'th wthio di allan o'r ffordd, yr hon y gorchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti rodio ynddi. Felly y tynni ymaith y drwg o'th fysg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os ydy proffwyd, neu rywun sy'n cael gweledigaethau drwy freuddwydion, yn ceisio'ch arwain chi i droi cefn ar yr ARGLWYDD, dylai gael ei ddienyddio. Yr ARGLWYDD eich Duw wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, a'ch rhyddhau chi o fod yn gaethweision. Rhaid i chi gael gwared â'r drwg sydd yn eich plith chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhaid rhoi'r proffwyd neu'r breu-ddwydiwr hwnnw i farwolaeth am iddo geisio'ch troi oddi ar y llwybr y gorchmynnodd yr ARGLWYDD eich Duw ichwi ei ddilyn, trwy lefaru gwrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw, a ddaeth chwi allan o wlad yr Aifft a'ch gwaredu o du375? caethiwed. Rhaid ichwi ddileu'r drwg o'ch mysg.