Deuteronomy 14:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na fwytewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i'r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef; neu gwerth ef i'r dieithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i'r ARGLWYDD dy DDUW. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch bwyta corff unrhyw anifail neu aderyn sydd wedi marw ohono'i hun. Gallwch ei roi i'r bobl o'r tu allan sy'n byw yn eich pentrefi chi, neu ei werthu i estroniaid. Ond dych chi'n bobl wedi eu cysegru i'r ARGLWYDD eich Duw. “Peidiwch berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch bwyta dim sydd wedi marw ohono'i hun; rhowch ef i'r dieithryn sydd yn eich trefi i'w fwyta, neu gwerthwch ef i estron, oherwydd pobl sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw ydych chwi. Peidiwch berwi myn yn llaeth ei fam.