Deuteronomy 14:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bwyta gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso efe i drigo o'i enw ef ynddo, ddegwm dy ŷd, dy win, a'th olew, a chyntaf‐anedig dy wartheg, a'th ddefaid; fel y dysgech ofni yr ARGLWYDD dy DDUW bob amser.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac mae hwn i gael ei fwyta o flaen yr ARGLWYDD eich Duw yn y lle bydd e'n ei ddewis — deg y cant o'r ŷd, y sudd grawnwin, yr olew olewydd, a phob anifail cyntaf-anedig — gwartheg, defaid a geifr. Rhaid i chi ddysgu dangos parch at yr ARGLWYDD eich Duw bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyt i fwyta dy ddegwm o u375?d, gwin ac olew, a chyntafanedig dy wartheg a'th ddefaid, gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw yn y man y bydd ef yn ei ddewis yn drigfan i'w enw, er mwyn iti ddysgu ofni'r ARGLWYDD dy Dduw bob amser.