Deuteronomy 14:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Lefiad, (am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi,) a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytânt, ac a ddigonir; fel y'th fendithio yr ARGLWYDD dy DDUW ym mhob gwaith a wnelych â'th law.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yno i'w ddefnyddio gan y rhai sydd o lwyth Lefi, y mewnfudwyr, y plant amddifad, a'r gweddwon yn y pentref. Wedyn bydd yr ARGLWYDD yn bendithio popeth fyddwch chi'n ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Caiff y Lefiaid, nad oes ganddynt ran na threftadaeth gyda thi, a'r dieithryn a'r amddifad a'r weddw yn dy dref, ddod a bwyta'u gwala; a bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio di yn y cwbl yr wyt yn ei wneud.