Deuteronomy 14:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond hyn ni fwytewch, o'r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a'r ysgyfarnog, a'r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi'r ewin, aflan ydynt i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond peidiwch bwyta camel, ysgyfarnog, a broch y creigiau (Er eu bod nhw'n cnoi cil, does ganddyn nhw ddim carn fforchog, felly maen nhw i'w hystyried yn aflan.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid ydych i fwyta'r rhai sy'n cnoi cil yn unig neu'n hollti'r ewin fforchog yn unig, sef camel, ysgyfarnog, broch; am eu bod yn cnoi cil ond heb fforchi'r ewin y maent yn aflan ichwi.