Deuteronomy 15:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i'th frawd, i'th anghenus ac i'th dlawd, yn dy dir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yna bobl dlawd yn y wlad bob amser, a dyna pam dw i'n dweud wrthoch chi am fod yn hael tuag at eich cydwladwyr tlawd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni fydd prinder tlodion yn y tir; dyna pam yr wyf yn gorchymyn iti agor dy law yn hael i'th berthynas anghenus a thlawd yn dy wlad.